![]() |
![]() |
Pwy sy’ angen cael eu cofrestru gydag AGIC?Mae Deddf Safonau Gofal 2000 yn datgan y bydd yn rhaid i chi fod wedi eich cofrestru gydag AGIC os ydych chi’n rhedeg neu’n rheoli un o’r canlynol: Caiff y gwaith o reoleiddio’r sefydliadau ac asiantaethau hyn ei lywodraethu gan Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 ac Safonau Gofynnol Cenedleathol.
Mae angen cofrestru hefyd unrhyw ddeintyddion sy’n darparu gwasanaethau deintyddiaeth preifat. Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat Cymru 2008 sy’n llywodraethu’r gwaith o reoleiddio deintyddion preifat. Gweler ein tudalennau deintyddiaeth i gael mwy o wybodaeth am ddeintyddiaeth breifat. Beth yw Ysbyty Annibynnol?Ceir diffiniad o ysbyty annibynnol yn adran 2 Deddf Safonau Gofal 2000. Yn gryno, mae ysbyty annibynnol yn sefydliad nad yw’n ysbyty’r GIG a’i brif ddiben yw:
ac
Gallai darparu rhai technegau a gwasanaethau meddygol eraill fod yn sbardun i gofrestru’r sefydliad fel ysbyty annibynnol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Beth yw Clinig Annibynnol?Diffinnir clinig annibynnol yn adran 2(4) Deddf Safonau Gofal 2000 a chaiff ei ragnodi ymhellach yn rheoliad 4 Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011. Clinig annibynnol yw sefydliad lle ceir meddygfa neu ystafell ymgynghori lle darperir gwasanaethau o unrhyw fath nad ydynt yn gysylltiedig â’r GIG (gan gynnwys triniaeth seiciatrig) gan ymarferwyr meddygol. Nid oes raid cofrestru os darperir y gwasanaethau meddygol yn unig dan drefniadau a wnaed ar ran cleifion gan:
Beth yw Asiantaeth Feddygol Annibynnol?Ceir diffiniad o asiantaeth feddygol annibynnol yn adran 2(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae asiantaeth feddygol annibynnol yn fenter (sy’n cynnwys unrhyw fusnes neu broffesiwn) sy’n cynnwys darpariaeth o wasanaethau gan ymarferwyr meddygol. Gall gynnwys gwasanaethau "galw allan", gwasanaethau brechlyn ar gyfer teithio a ffliw. Nid oes raid cofrestru os darperir y gwasanaethau meddygol yn unig dan drefniadau a wnaed ar ran cleifion gan:
Os ydych chi’n bwriadu cynnal neu reoli ysbyty, clinig neu asiantaeth feddygol annibynnol, ewch ymlaen at y dudalen ymgeisio. Mae rhai esemptiadau o ran cofrestru ac mae’r rhain wedi’u gosod allan yn rheoliad 3 Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011. Os ydych chi o’r farn y gallai’r rhain fod yn berthnasol i chi neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch p’un a ddylid cofrestru gwasanaeth ai peidio, peidiwch â phetruso cyn cysylltu ag AGIC gan nodi cymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 06/04/2011 |
|
|