![]() |
![]() |
Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well: Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd CymruAr 1 Ebrill 2010, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfres o safonau diwygiedig ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Roedd y fframwaith safonau diweddaraf, ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’ yn nodi’r gofynion o ran yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan bob gwasanaeth iechyd ym mhob lleoliad. Mae’r Safonau’n darparu fframwaith cyson sy’n galluogi gwasanaethau iechyd i ystyried y gwahanol fathau o wasanaethau y maent yn eu darparu mewn ffordd integredig er mwyn sicrhau bod popeth y maent yn ei wneud o’r ansawdd uchaf a bod “y staff cywir yn gwneud y pethau cywir ar gyfer y claf cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir”. Ategir y safonau gan ganllawiau ategol, sydd ar gael yn e-Lawlyfr Llywodraethu GIG Cymru. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd AGIC yn cysylltu â rhanddeiliaid er mwyn datblygu dull hunanasesu diwygiedig. Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well - Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru: Dull Newydd o Hunanasesu Os ydych yn dymuno cysylltu â ni ynglŷn â’r gwaith hwn, mae croeso i chi anfon e-bost atom ni.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 30/04/2012 |
|
|