Sgipio mordwyaeth
 
 

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008

Daw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 i rym ar 1 Ionawr 2009. Yn ôl y Rheoliadau mae’n ofynnol i ymarferwyr deintyddol yng Nghymru, sy’n darparu unrhyw driniaeth ddeintyddol nad yw yn y GIG, gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
 
Bydd AGIC yn cysylltu â phob deintydd preifat yn ddiweddarach y mis hwn i egluro’r broses ac i’ch diweddaru ynghylch y trefniadau cofrestru. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau fel a ganlyn:
 
Anfonwch ymholiadau ynglŷn â’r rheoliadau, os gwelwch yn dda, drwy’r e-bost i privatedentistregulations@cymru.gsi.gov.uk
 
Anfonwch ymholiadau ynglŷn â chofrestriadau, os gwelwch yn dda, drwy’r e-bost i privatedentistryregistration@cymru.gsi.gov.uk
 
Mae’r dogfennau canlynol yn rhoi gwybodaeth ynghylch y broses ymgynghori, y rheoliadau fydd yn berthnasol a chyfarwyddyd cwestiwn ac ateb.
 
 
 
 
 
31 Hydref 2008
 
 
12 Rhagfyr 2008
 
Yn ychwanegol at ohebiaeth flaenorol ynghylch Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008, mae’r ffurflen gais a’r dogfennau ategol y bydd eu hangen arnoch i gwblhau’ch cais ar gael i’w lawrlwytho. Dylai’r nodiadau cyfarwyddyd i ymgeiswyr gynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i’ch cynorthwyo wrth gwblhau’r cais. Fodd bynnag, os oes unrhyw beth yn aneglur, cysylltwch â’r swyddfa hon, a byddwn yn gallu’ch cynghori.
 
Mae’r dogfennau a ganlyn ar gael i’w lawrlwytho:
 
 
Nid yw Ffurflen Gais am Ddatgeliad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) ar gael i'w lawrlwytho, felly cysylltwch ag AGIC i wneud cais am un.  Gellir gweld Canllaw i Ymgeiswyr y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) trwy’r ddolen hon: http://www.crb.gov.uk/default.aspx?page=4768&lang=cy
 
Sicrhewch fod yr holl ddogfennaeth berthnasol wedi’i chynnwys pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais. Gall ceisiadau anghyflawn, a methiant i ddarparu’r holl eitemau y gofynnir amdanynt, olygu oedi wrth brosesu’ch cais. Gellir dod o hyd i fanylion am Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 sy'n ymwneud â'r gofyniad hwn i gofrestru ar y dudalen hon.
 
Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy:
 
 
Cyfeiriad: Cofrestriadau Deintyddol,
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Tŷ Bevan
Parc Busnes Caerffili
Heol y Fan
Caerffili
CF83 3ED
 
Sylwch fod y pecyn cais hwn yn berthnasol i'r rheoliadau uchod yn unig. Os ydych yn defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 4, neu olau pwls dwys ar gyfer cleifion preifat, bydd angen cofrestru ar wahân gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gydymffurfio â Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan AGIC.
 
Tystysgrif Cofnodion Troseddol Fanwl
 
Mae'n rhaid cynnwys tystysgrif gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT), neu gais am dystysgrif SCT newydd, gyda phob cais sydd wedi'i gwblhau ar gyfer cofrestru.
  • Os ydych chi'n darparu gwasanaethau deintyddol yn brefiat a'ch bod ar restr cyflawnwyr deintyddol y GIG ar hyn o bryd; a
  • bod tystysgrif SCT wedi'i chael yn sgil y ffaith eich bod wedi'ch cynnwys ar y rhestr cyflawnwyr deintyddol honno; a
  • bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad y cyflwynwyd y dysdysgrif SCT; a
  • bod cyfnod o 6 mis o leiaf yn weddill o'r dyddiad yr ydych y cyflwyno'ch cais i gofrestru.
Derbynnir y dystysgrif honno at ddibenion y cofrestriad hwn.
 
Os nad yw'r uchod yn berthnasol, bydd yn rhaid i chi gael tystysgrif newydd.  I wneud hyn mae'n rhaid i chi gael ffurflen gais SCT gan AGIC.

Wrth ddanfon eich ffurflen gais am dystysgrif Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), sicrhewch fod y siec amgaeedig yn cael ei wneud yn ddaliadwy i AGIC neu Llywodraeth Cenedlaethol Cymru. Gall methiant i wneud hyn ddileu’r broses gan bydd rhaid dychwelyd y sieciau.

Deintyddion wedi eu cofrestru gydag AGIC mewn cytundeb ag Rheoliadau Deintyddion Preifat (Cymru) 2008

Bydd y rhestr hon yn cael ei ddiweddaru ar ddechrau pob mis

Noder: Os bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn derbyn eich cais i gofrestru ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol preifat ar ôl dyddiad cau’r cyfnod trosglwyddo, sef 30 Mehefin 2009 (ar gyfer deintyddion a oedd eisoes yn darparu gwasanaethau deintyddol preifat cyn 1 Ionawr 2009), ni ddylech gynnig unrhyw wasanaethau deintyddol preifat tan y bydd eich cais i gofrestru wedi’i ganiatáu.


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 26/05/2010