![]() |
![]() |
Cyhoeddiadau Hapwiriadau Glanweithdra YsbytaiCefndir y dull gweithredu a ddefnyddir gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i adolygu Glanweithdra YsbytaiYn 2007, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei bwriad i ymweld ag ysbytai ar hap ac yn ddirybudd er mwyn asesu eu glanweithdra a dechreuodd ar raglen dreigl o ymweliadau â sefydliadau gofal iechyd ar draws Cymru yn y flwyddyn honno. Wrth benderfynu ar ffocws yr hapwiriadau hyn, mae AGIC wedi ystyried nifer o wahanol ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i’r agenda hon. Mae’r rhain yn cynnwys adolygiad y sefydliad o’i gynnydd yn erbyn Safonau Gofal Iechyd Cymru, pryderon a godwyd a gwybodaeth a gasglwyd o waith cadw golwg. Gyda’i gilydd, mae’r wybodaeth hon wedi llywio cyfeiriad y rhaglen hapwirio sy’n cael ei hailystyried yn sgil unrhyw wybodaeth newydd sy’n dod i’n sylw. Mae’r offeryn a ddefnyddir i hapwirio glanweithdra ysbytai wedi’i seilio ar offeryn Cymdeithas y Nyrsys Rheoli Haint. Mae’r dull gweithredu a fabwysiedir i hapwirio glanweithdra ysbytai yn dibynnu ar waith arsylwi uniongyrchol a rhywfaint o waith holi staff gan ofyn am rai dogfennau allweddol. CyhoeddiadauBwrdd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Bwrdd Iechyd Aneurin BevanYmddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r FroYmddiriedolaeth GIG Gogledd CymruBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrYsbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug - Hapwiriadau Glanweithdra Dirybudd - 23.02.10 Bwrdd Iechyd Hywel DdaYmddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd GwentYmddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin CymruYmddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro MorgannwgBwrdd Iechyd Cwm TafBwrdd Iechyd Addysgu PowysYsbyty Spire CaerdyddYsbyty Werndale
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 26/09/2012 |
|
|