Adolygiad o Gynnydd yn erbyn Safonau Gofal Iechyd i Gymru
Ym mis Mai 2005 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Safonau Gofal Iechyd i Gymru, sy’n gosod fframwaith cyffredin o safonau gofal iechyd i gefnogi’r GIG a chyrff sy’n bartneriaid i ddarparu gwasanaeth effeithiol, amserol ac o ansawdd ar draws yr holl sefydliadau gofal iechyd. Mae’r safonau wedi’i ffocysu ar wella profiad claf a gosod cleifion fel ffocws i’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’i darparu trwy ddarparu sail am welliant parhaol.
Yn ystod 2007 roedd rhaid i gyrff GIG hunanasesu eu cynnydd o ddarparu’r lefel uchaf o berfformiad yn erbyn pob un o’r 32 o safonau ac i gyflwyno’i asesiadau i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru erbyn diwedd Mehefin 2007 i’w brofi a’u dilysu. Eleni oedd y tro gyntaf roedd rhaid i gyfundrefnau GIG ymgymryd math asesiad ac roedd rhaid iddynt ddarparu hynny yn unol ag amserlen dynn ac rydym yn gwerthfawrogi'r ymdrechion a wneir gan gyfundrefnau GIG i sicrhau fod dyddiadau cau yn cael ei dilyn a’r ymrwymiad a ddangoswyd i sicrhau fod gwersi’n cael eu dysgu o’r broses.
Nid yw’r ffocws ar wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd a gomisiynwyd a darparwyd gan GIG Cymru erioed wedi bod yn fwy ac mae’r wybodaeth a gasglwyd ar ran y proses asesu wedi galluogi ni i ddatblygu tros olwg o GIG Cymru. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw broses newydd mae nifer o faterion wedi’i amlygu ynglyn â’r dynesiad at asesiad, sydd eisiau coethder a datblygiad pellach. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chyfundrefnau GIG dros y misoedd nesaf i gymryd y gwaith pellach hwn ymlaen i baratoi am asesiadau flwyddyn nesaf.
Gwasgwch ar yr adroddiad hoffech ei weld:
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
12/10/2009