Sgipio mordwyaeth
 
 

Wales Concordat Cymru

Ar 30 Tachwedd 2007, cyhoeddwyd Adroddiad Cynnydd ar Weithredu Concordat Cymru. Mae’r adroddiad, yn nodi’r hyn y mae’r llofnodwyr wedi ei gyflawni hyd yma gyferbyn â’r cerrig milltir a gyhoeddwyd ym Mehefin 2006.

Concordat Rhwng Cyrff sy'n Arolygu, yn Rheoleiddio neu’n Archwilio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Ar 12 Mai 2005, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Concordat rhwng y Cyrff sy'n Arolygu, Rheoleiddio ac Archwilio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r ddogfen hon yn pennu 10 o amcanion i nodi a gweithredu camau er mwyn cynorthwyo i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i’r cyhoedd, ac er mwyn lleihau baich rhaglenni arolygu ar staff y rheng flaen. Gafodd y Cynllun Cyflawni sy’n pennu sut i gyflawni’r amcanion hyn gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2005.


Ar hyn o bryd mae gan y Concordat ddeg prif lofnodwr a chwe llofnodwr cyswllt. Cyrff adolygu sy'n arolygu, yn rheoleiddio neu'n archwilio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw’r prif lofnodwr tra bo llofnodwyr cyswllt yn cefnogi amcanion ac arferion y Concordat ond nid ydynt yn cyflawni gweithgareddau adolygu yn uniongyrchol eu hunain.

Mae AGIC yn arwain y blaen o ran gweithredu Concordat Cymru mewn gofal iechyd ac mae wedi datblygu, neu wrthi'n datblygu, offer i helpu llofnodwyr i weithredu'r Concordat, gan gynnwys:

1.  Gwefan Benodedig y Concordat (www.walesconcordat.org.uk)

Mae'r Wefan yn darparu gwybodaeth gefndir i'r Concordat ac yn cysylltu ag offer a gynlluniwyd i helpu llofnodwyr i gydymffurfio â'r Concordat. Mae'r safle hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor i sefydliadau sydd am ddod yn llofnodwyr newydd i'r Concordat.

2.  Offeryn Amserlennu

Mae Offeryn Amserlennu'r Concordat yn offeryn ar-lein a ddefnyddir i gydgysylltu gweitharedd adolygu a rhannu gwybodaeth rhwng cyrff sy'n llofnodwyr. Lansiwyd yr Offeryn ym mis Hydref 2006, a gellir cael gafael arno o dudalen flaen Gwefan y Concordat. Mae ganddo ddiogelwch cyfrinair haenog sy'n galluogi cyrff adolygu i rannu gwybodaeth am weithgaredd nas cyhoeddwyd ac adroddiadau cyfrinachol. Gall darparwyr gwasanaethau neu aelodau o'r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth sy’n eiddo i'r cyhoedd hefyd o'r offeryn. Mae system rhybudd e-bost yn galluogi defnyddwyr i gofrestru ar gyfer rhybuddion rhag sefydliadau dethol y byddant yn eu derbyn os cofnodir unrhyw weithgaredd adolygu newydd neu wedi ei ddiweddaru ar eu cyfer.

Dechreuodd adolygiad o'r Offeryn Amserlennu ym mis Mehefin 2007 a bydd yn canolbwyntio ar wella ymarferoldeb y feddalwedd a'r defnydd o'r system. Mae Grwp Defnyddwyr Offeryn Amserlennu hefyd yn cael ei sefydlu sy'n dwyn ynghyd ddefnyddwyr yr Offeryn Amserlennu o gyrff gwahanol sy'n llofnodwyr gyda'r bwriad o wella ansawdd a chyflawnder y wybodaeth a gofnodir.

3.  Fframwaith Asesu Risg Integredig

Bydd datblygu a defnyddio Fframwaith Asesu Risg Integredig ar gyfer arolygu gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn helpu llofnodwyr i sicrhau y caiff eu hadolygiadau eu targedu a'u bod yn gymesur.

Sefydlwyd Grwp Gorchwyl a Gorffen i ddatblygu'r Fframwaith ac mae wedi dechrau ar ei waith drwy fapio prosesau asesu risg presennol mewn nifer o sefydliadau y tu mewn a’r tu allan i'r Concordat. Bydd y Fframwaith yn ystyried prosesau asesu risg a gyflawnir ar hyn o bryd gan wasanaethau awdurdodau lleol fel rhan o Raglen Cymru ar gyfer Gwella a'r hyn a ddefnyddir gan ymddiriedolaethau'r GIG a darparwyr gofal iechyd preifat a gwirfoddol fel rhan o'u prosesau archwilio mewnol.

4.  Systemau Rhannu Gwybodaeth

Un o'r ffyrdd y gall y Concordat helpu llofnodwyr i ddileu unrhyw feichiau diangen ar wasanaethau gofal iechyd sy'n deillio o adolygiadau yw drwy ddatblygu prosesau rhannu gwybodaeth gwell. Drwy ddatblygu defnydd mwy deallus o wybodaeth dylai fod yn bosibl osgoi ceisiadau dyblyg am wybodaeth gan ddarparwyr gwasanaethau/comisiynwyr.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn sefydlwyd Grwp Gorchwyl a Gorffen i ddatblygu catalog ar-lein o gronfeydd data iechyd a gofal cymdeithasol. Ceir cynlluniau hefyd i ddatblygu Offeryn Asesu Effaith i'w ddefnyddio gan lofnodwyr cyn gwneud unrhyw geisiadau newydd am wybodaeth gan ddarparwyr gwasanaethau/comisiynwyr. Caiff protocol ei ddatblygu a fydd yn arwain llofnodwyr wrth iddynt ddefnyddio'r catalog ar-lein a'r Offeryn Asesu Effaith.

5.  Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Arolygu Gwasanaethau Cyhoeddus

Cefnogodd Concordat Cymru y gwaith o ddatblygu'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Arolygu Gwasanaethau Cyhoeddus, a arweiniwyd gan Sgiliau er Cyfiawnder. Cynhaliwyd gweithdy ymgynghori ar y Safonau drafft yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2006 a daeth nifer dda o gynrychiolwyr ynghyd o ystod eang o gyrff adolygu, darparwyr gwasanaethau a Swyddogion Llywodraeth y Cynulliad.

Mae'r Safonau terfynol yn aros i'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm eu cymeradwyo a byddant ar gael o gyfeirlyfr y Safonau Galwedigaethaol Cenedlaethol: www.ukstandards.org.  Bydd y Safonau yn ddefnyddiol i gyrff adolygu at nifer o ddibenion, yn cynnwys, arfarnu blynyddol, disgrifiadau swydd a chynllunio gweithlu.

6.  Seminarau ar gyfer Staff sy'n Llofnodwyr

Cynhelir cyfres o seminarau i staff mewn sefydliadau sy'n llofnodwyr ar amrywiaeth o bynciau i helpu llofnodwyr i ddatblygu dull cyson o arolygu polisi neu ddeddfwriaeth newydd neu ddiwygiedig.  Cynhaliwyd y seminar cyntaf ar 29ain Mawrth 2007 ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a daeth nifer dda o staff ynghyd o groestoriad o gyrff gwahanol sy'n llofnodwyr a chafodd werthusiad da. Bwriedir cynnal rhagor o seminarau yn ddiweddarach yn yr haf.

Cafodd y Concordat ar gyfer Lloegr ei gyhoeddi gan y Comisiwn Gofal Iechyd ar 24 Mehefin 2004, gyda dogfen atodol o’r enw Making a Difference, sy’n rhoi amlinelliad o’r datblygiadau cychwynnol wrth gyd-gysylltu arolygiadau o wasanaethau iechyd yn Lloegr.
 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 05/11/2009