Sgipio mordwyaeth
 

Cwynion a Phryderon

Codi pryderon a gwneud cwynion ynglŷn â gwasanaethau iechyd yng Nghymru

Mae llyfryn AGIC yn egluro sut i godi pryder neu wneud cwyn ynglŷn â gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Diben y llyfryn hwn, ynghyd â’n llyfryn ar sut i wneud sylwadau neu godi pryderon ynglŷn â’n gwaith ein hunain, yw rhoi canllawiau eglur i gleifion a’r cyhoedd ehangach ynglŷn â beth i’w wneud os ydych yn anfodlon ar y gwasanaethau yr ydych wedi eu derbyn, ac egluro pwy all fod o gymorth i chi.

Yr hyn y dylech ei wneud os oes gennych gŵyn neu bryder am wasanaeth gofal iechyd annibynnol yng Nghymru
 
Mae’r arweiniad hwn yn nodi’r hyn y dylech ei wneud os oes gennych gŵyn neu bryder am wasanaeth gofal iechyd annibynnol. Mae’n disgrifio ein swyddogaeth ni wrth ymdrin â’ch pryderon chi, y mathau o gwynion neu bryderon y dylech ein hysbysu amdanynt, pryd i gysylltu â ni a’r hyn y gallwch ddisgwyl iddo ddigwydd.
 
Yn y crynodeb drwyddo draw, mae’r term “y Ddeddf” yn cyfeirio at Ddeddf Safonau Gofal 2000 a’r term “y rheoliadau” yn cyfeirio at Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011, Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 a Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008.
 
 
 
Ni yw corff gwarchod Cymru ar gyfer gofal iechyd. Rydym yn cyflawni’r swyddogaeth hon a’r dyletswyddau hyn ar ran Gweinidogion Cymru. Ein cyfrifoldeb ni yw gwella ansawdd a diogelwch y gofal iechyd y mae pobl yn ei dderbyn. Mae hyn yn cynnwys archwilio’r gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau gofal iechyd annibynnol sy’n dod o dan y Ddeddf.
 
Fel rhan o’n swyddogaeth, rydym yn cofrestru pobl (gan gynnwys sefydliadau) sy’n darparu gwasanaethau gofal iechyd annibynnol. Rydym yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf a’r rheoliadau cysylltiedig a wneir gan Weinidogion Cymru.
 
Rhyngddynt, mae’r Ddeddf a’r rheoliadau’n disgrifio pa fathau o sefydliadau gofal iechyd annibynnol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y mae angen iddynt gofrestru â ni a beth y mae hyn yn ei olygu. Er enghraifft, mae’n rhaid iddynt weithredu eu gwasanaethau yn ddiogel ac yn broffesiynol gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cleifion.
 
Mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol sefydlu eu gweithdrefnau cwynion eu hunain. Fodd bynnag, rydym yn casglu gwybodaeth am bob un o’r unigolion sydd wedi’u cofrestru gyda ni er mwyn ein cynorthwyo i gadw golwg ar ansawdd eu gwasanaethau ac i benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau gorfodi. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys unrhyw gwynion neu bryderon mae cleifion neu aelodau eraill o’r cyhoedd yn eu hanfon atom. Er enghraifft, os ydych wedi gwneud cwyn i ddarparwr annibynnol ac nad ydych yn fodlon gyda’i ymateb, yna rhowch wybod i ni. Neu os oes gennych fathau eraill o gwynion neu bryderon cysylltwch â ni. Byddwn yn gallu cymryd camau os bydd yr unigolyn cofrestredig wedi cyflawni trosedd dan y Ddeddf, megis torri amodau eu cofrestriad neu eu bod wedi gweithredu’n groes i ddarpariaeth reoleiddio.
 
 
Diffinnir hyn gan y Ddeddf, ond yn gyffredinol, caiff gwasanaeth gofal iechyd annibynnol ei redeg gan sefydliad neu unigolyn ac eithrio’r GIG, er y gallai fod yn darparu gofal i gleifion y GIG ar ran y GIG. Gall y term darparwr gofal iechyd annibynnol gynnwys mathau penodol o ofal iechyd, gan gynnwys:
 
1) Ysbytai Annibynnol sy’n gallu cynnwys:
 
·         ysbytai acíwt (ysbytai ar gyfer cleifion sydd angen gofal byrdymor)
·         ysbytai sy’n darparu triniaeth feddygol dan anaesthesia neu dawelyddiad
·         sefydliadau sy’n darparu triniaeth ddeintyddol dan anesthetig cyffredinol
·         hosbisau
·         ysbytai mamolaeth
·         gwasanaethau sy’n darparu triniaeth a gofal iechyd meddwl
·         lleoedd sy’n darparu gwasanaethau i derfynu beichiogrwydd (erthyliadau)
·         sefydliadau sy’n cynnig llawdriniaeth gosmetig
·         defnydd o laserau dosbarth 3B neu 4 neu ffynonellau golau pỳls dwys
·         triniaeth sy’n defnyddio siambrau ocsigen hyperbarig
·         gwasanaethau ffrwythloni in vitro
·         gwasanaethau endosgopi
·         haemodialysis neu ddialysis peritoneol
 
2) Asiantaethau Meddygol Annibynnol
 
3) Clinigau Annibynnol (mae hyn yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan feddygon preifat er enghraifft)
 
4) Deintyddion Preifat
 
 
Aelodau’r cyhoedd
 
Os oes gennych chi neu aelod o’ch teulu gŵyn bryder am y gofal iechyd yr ydych wedi’i dderbyn, dylech hysbysu’r unigolyn neu’r sefydliad a ddarparodd y gwasanaeth. Mae’r rheoliadau yn datgan bod yn rhaid bod gan wasanaethau weithdrefn i ymchwilio yn llawn i unrhyw gwynion y maent yn eu derbyn. Dylech chi neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar eich rhan ofyn am gopi ysgrifenedig o’r weithdrefn gwyno, a ddylai nodi’n eglur holl gamau’r broses gwynion leol. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylent allu ddatrys y mater. Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r holl wasanaethau yr ydym yn eu rheoleiddio roi crynodeb o unrhyw gwynion a wneir yn eu herbyn i ni yn ogystal â’r camau y maent wedi’u cymryd i ymateb i’r cwynion hynny.
 
Os ydych chi wedi cysylltu â gwasanaeth i wneud cwyn ac nad yw’r gwasanaeth wedi rhoi manylion ei weithdrefn gwyno i chi, yna rhowch wybod i ni.
 
Os ydych chi wedi cysylltu â gwasanaeth i wneud cwyn ac nad yw’r gwasanaeth wedi dilyn ei weithdrefn gwyno, yna rhowch wybod i ni.
 
Os ydych chi wedi cysylltu â gwasanaeth i wneud cwyn, byddem fel rheol yn disgwyl i chi gwblhau prosesau a chamau ymdrin â chwynion y darparwr cyn cysylltu â ni.
 
Os byddwch yn penderfynu ysgrifennu atom gan eich bod o’r farn na ymdriniwyd â’r mater yn briodol, yna rhowch wybodaeth fanwl i ni am eich pryder ac esboniwch eich rhan yn y mater. Cewch ein ffonio neu ysgrifennu atom (mae ein manylion cyswllt ar dudalen 8).
 
Os ydych yn codi pryder ar ran y claf yna amgaewch gadarnhad gan y claf ei fod yn fodlon i chi wneud hynny neu esboniwch pam na ellir rhoi caniatâd.
 
Staff gofal iechyd
 
Os ydych yn aelod o staff, gallwch hysbysu eich cyflogwr am eich cwynion neu bryder neu gallwch ein hysbysu ni eich hunan. Byddwn yn ymdrin â’r mater yn ddienw (ni fydd eich cyflogwr yn gwybod pwy ydych chi pan fyddwn yn cysylltu ag ef). Nid oes rhaid i chi gwyno neu godi eich pryder gyda’ch cyflogwyr oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny. Gall aelodau staff gofal iechyd nad ydynt wedi’u cyflogi gan ysbyty/clinig annibynnol e.e. meddyg neu nyrs y GIG y bu’n rhaid iddo ymdrin â haint neu broblem arall a achoswyd gan driniaeth wael, gysylltu â ni gyda’i bryderon hefyd.
 
 
Gallwch ein hysbysu am bryderon sydd gennych am:
  • y ffordd y cawsoch eich asesu ar gyfer eich triniaeth, pa archwiliadau a gynhaliwyd a sut yr ymdriniwyd â’r rhain
  • ansawdd y gofal neu’r driniaeth a gawsoch
  • safonau glendid neu hylendid
  • adeiladau neu gyfleusterau yr ydych o’r farn eu bod yn beryglus, neu lle’r oeddech yn teimlo nad oedd eich iechyd a’ch diogelwch yn cael eu hamddiffyn yn gywir
  • aelodau staff nad ydynt wedi ymddwyn yn briodol neu sydd wedi dangos agwedd wael tuag atoch
  • aelodau staff nad ydynt wedi’u hyfforddi’n gywir i ddarparu’r gofal a ddarparwyd ganddynt
  • unrhyw anafiadau difrifol i chi eu dioddef naill ai yn ystod eich triniaeth neu o ganlyniad iddi
  • unrhyw arferion i chi eu gweld a oedd yn beryglus neu’n peri pryder yn eich barn chi, a
  • sut y gwnaeth y gwasanaeth ymdrin â’ch pryder ar ôl i chi ei hysbysu amdano.
Ni allwn ystyried materion yn ymwneud â:
 
Yn gyffredinol, ni all AGIC ymchwilio i faterion nad ydynt yn rhan o’i swyddogaethau rheoleiddio e.e. anghydfod yn ymwneud â chontractau rhwng yr unigolyn cofrestredig a’r claf nad ydynt yn berthnasol i unrhyw un o reoliadau’r Ddeddf. Mae’r rhain yn cynnwys:
  • ffioedd neu unrhyw arian arall yr ydych wedi ei dalu i’r gwasanaeth (er y byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw beth a fyddai’n dangos diffyg cydymffurfiad â chanllaw’r claf o ran ffioedd)
  • gwasanaethau nad oes rhaid eu cofrestru gyda ni
  • camau cyfreithiol yr ydych yn eu cymryd yn erbyn darparwr gwasanaeth – er na fyddwn yn ymyrryd efallai y byddwn yn dymuno cael gwybod amdanynt gan y gallent ddangos achosion o dor-rheoliadau
  • materion yn ymwneud â’ch cyflogaeth (os ydych yn aelod o staff gofal iechyd) oni bai eu bod yn effeithio ar ddiogelwch cleifion, megis nifer yr aelodau staff sydd ar gael i ddarparu triniaeth neu ofal, neu pan fo’r darparwr wedi methu â darparu hyfforddiant priodol neu ganiatáu cymwysterau pellach fel sy’n ofynnol dan y rheoliadau, neu fod y pryderon yn ymwneud â chyfarwyddiadau a roddwyd sy’n mynd yn groes i’r canllawiau a’r codau ymddygiad ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
 
Pan fyddwn yn derbyn cwyn neu bryder am ddarparydd gofal iechyd annibynnol caiff ei drosglwyddo i’r Pennaeth Rheoleiddio, sydd yn gyfrifol dros sicrhau ei fod yn cael ei drin yn briodol.
 
Byddwn yn cydnabod eich cwyn neu bryder yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn a byddwn yn esbonio’r hyn fydd yn digwydd nesaf.
 
Ar ôl i ni dderbyn gwybodaeth am wasanaeth, byddwn yn ei hasesu er mwyn penderfynu a oes posibilrwydd bod yr unigolyn cofrestredig wedi cyflawni trosedd. Er enghraifft, a yw’r unigolyn cofrestredig wedi:
  • torri’r gyfraith trwy fethu â chydymffurfio ag un neu fwy o’r rheoliadau
  • methu â bodloni unrhyw amod o’i gofrestriad gyda ni, neu
  • wedi cyflawni un o’r troseddau eraill a nodir yn y Ddeddf.
I’n cynorthwyo i wneud hyn, mae’n bosibl y byddwn yn:
  • gofyn i chi am fwy o wybodaeth a gallem hefyd edrych ar eich cofnodion meddygol (os yw hyn yn berthnasol i’r gŵyn), a
  • gofyn i’r gwasanaeth am fwy o wybodaeth.
Yna, byddwn yn cysylltu â chi eto (o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl anfon ein cydnabyddiaeth atoch fel rheol).
 
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud y canlynol: 
  • Gallem benderfynu nad ni yw’r sefydliad gorau i ymdrin â’ch cŵyn neu bryder. Er enghraifft, os yw eich cŵyn neu bryder yn ymwneud â’r ffordd y mae gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (meddyg neu nyrs efallai) wedi ymddwyn tuag atoch, yna byddwn fel rheol yn gofyn i chi gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol i’w hysbysu am eich cŵyn neu bryder. Byddwn yn eich hysbysu pwy yw’r corff hwn, er enghraifft y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) neu’r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC). Ond mae’n debygol y bydd gennym ddiddordeb yn eu canfyddiadau a gallai hyn hefyd arwain at gamau gorfodi gan AGIC.
  • Efallai y byddwn yn argymell i chi gysylltu â’r gwasanaeth eto er mwyn ceisio datrys y mater (mae’n bosibl hefyd y byddwn yn ysgrifennu at yr unigolyn/ion cofrestredig i’r un diben)
  • Efallai y byddwn yn penderfynu bod y sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag un o’r rheoliadau. Os mai dyma’r achos, byddwn yn cymryd camau priodol ac yn eich hysbysu o hyn. Pan fo’n briodol, rydym yn ceisio sicrhau gwelliannau i’r gwasanaeth cyn i ni erlyn unigolyn cofrestredig neu ddiddymu cofrestriad. Mae ein profiad yn dangos bod y rhan fwyaf o wasanaethau’n gwneud yr hyn yr ydym yn ei argymell ac yn cyflawni gwelliannau.
  • Efallai y byddwn yn penderfynu nad yw’r gwasanaeth wedi torri’r gyfraith trwy beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau neu’r amodau.
 
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni am eich hunan neu’r gofal a gawsoch, byddwn yn ymdrin â hi mewn modd gofalus a sensitif. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 a deddfau perthnasol eraill a chanllawiau Llywodraeth Cymru pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth.
 
 
Mae cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru (WIHA) a’i ysgrifenyddiaeth, y Gwasanaethau Cynghori Gofal Iechyd Annibynnol (IHAS), yn gweithredu system allanol dyfarnu annibynnol ar gyfer adolygu cwynion a phryderon yn erbyn eu haelodau; y Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol (ISCAS) ac mae’n gallu ystyried pa un a oedd y gwasanaeth gofal iechyd y gwnaethoch gŵyn iddo wedi ymdrin â’ch pryder yn briodol. Mae gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) Brotocol Gweithredu gyda WIHAS, sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer sut y bydd AGIC fel arfer yn ymdrin â’r wybodaeth a dderbynnir.
 
Cewch gysylltu ag ICAS yn uniongyrchol neu fe roddwn ni wybodaeth iddynt am eich pryder (byddwn yn gofyn am eich caniatâd yn gyntaf). I gael mwy o wybodaeth ac i weld pa un a yw’r gwasanaeth gofal iechyd annibynnol sydd dan sylw yn perthyn i’r WIHA, ewch i’w gwefan yn www.independenthealthcare.org.uk neu cysylltwch â hwy drwy ffonio 020 7379 8598.
 
Gwasanaeth annibynnol a sefydlwyd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yw’r Gwasanaeth Cwynion Deintyddol i gynorthwyo cleifion deintyddol preifat a gweithwyr deintyddol proffesiynol i ddatrys cwynion am wasanaethau deintyddol preifat.
 
Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cwynion Deintyddol yn uniongyrchol neu gallwn ni roi gwybodaeth iddo am eich pryder (byddwn yn gofyn am eich caniatâd yn gyntaf). Os hoffech gael mwy o wybodaeth am hyn ewch i’r wefan www.dentalcomplaints.org.uk neu anfonwch e-bost i info@dentalcomplaints.org.uk neu ffoniwch 08456 120540.
 
Mae’r gwasanaethau cwynion hyn ar wahân i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, felly nid ydym yn rhan o’u gwasanaethau. Fodd bynnag, rydym weithiau’n rhannu gwybodaeth am bryderon cleifion gyda hwy.
 
 
Cewch ein ffonio neu ysgrifennu atom yn:
 
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Adeiladau'r Llywodraeth
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ 
 
Ffôn: 0300 062 8163
Ffacs: 0300 062 8387 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 23/10/2013