![]() |
![]() |
RheoliadMae gan AGIC, a sefydlwyd fel rheoleiddiwr gofal iechyd annibynnol ar 1 Ebrill 2006, awdurdod dirprwyedig llawn ar gyfer ei phenderfyniadau rheoleiddio. Mae AGIC yn cofrestru ac arolygu’r gwasanaethau hyn yn erbyn gofynion y Ddeddf Safonau Gofal, y Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a bennwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae swyddogaethau’r Awdurdod Goruchwylio Lleol wedi’u trosglwyddo i AGIC o 1 Ebrill 2006 ymlaen. Mae swyddogaethau’r Awdurdod Goruchwylio Lleol ar gyfer y gwaith statudol o oruchwylio bydwragedd yng Nghymru yn cynnwys paratoi, penodi a datblygu goruchwylwyr bydwragedd. Mae AGIC yn gyfrifol am gydgysylltu’r panel sy’n craffu ar gynigion gan gyrff y GIG a sefydliadau Addysg Uwch (SAU) sy’n dymuno sefydlu swyddi Ymarferwyr Ymgynghorol (anfeddygol) yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â'r adrannau canlynol:
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 08/09/2010 |
|
|