![]() |
![]() |
|
YmchwiliadEin gwaithSwyddogaeth y tîm ymchwilio yw cynnal adolygiadau o sefydliadau neu wasanaethau gofal iechyd gan ganolbwyntio ar ryw faes neilltuol, mewn ymateb i bryderon sy’n deillio o ddigwyddiad neu ddigwyddiadau penodol, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydyw a/neu pa mor aml y mae’n digwydd. Er nad ydym yn ymchwilio i gwynion unigol, fe wnawn ystyried ymchwilio i faterion sy’n awgrymu bod methiannau ehangach yn bodoli yn y GIG. Rydym yn cynnal ymchwiliadau pan fo rhywun yn marw mewn carchar, neu pan fo claf y mae’r gwasanaethau iechyd meddwl yn gyfarwydd ag ef yn gysylltiedig â dynladdiad. Fe ellid cynnal ymchwiliadau yn sgil hunanatgyfeiriad gan Sefydliad neu Sefydliadau’r GIG; penderfyniad gan AGIC i ymchwilio o ganlyniad i faterion a ddaeth i’r amlwg wrth sgrinio data / gwybodaeth neu wrth gynnal arolygiad; neu yn dilyn cais am ymchwiliad gan, er enghraifft, aelod o’r cyhoedd, arolygiaeth arall, yr heddlu neu Lywodraeth y Cynulliad. Adolygu Dynladdiad a Gyflawnwyd gan Ddefnyddiwr Gwasanaeth Iechyd MeddwlMewn amgylchiadau pan fo claf y mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn gyfarwydd ag ef yn gysylltiedig â dynladdiad, fe allai Llywodraeth y Cynulliad gomisiynu adolygiad allanol annibynnol o’r achos er mwyn gofalu y nodir ac y gweithredir ar unrhyw wersi a ddysgir. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd wedi cynnal yr adolygiadau allanol hyn ers mis Ionawr 2007. Cylch gorchwyl adolygiadau o’r fath yw:
Mae’r adolygiadau a gynhaliwyd gennym hyd yma wedi amlygu themâu a phryderon cyffredin yn ymwneud â rhannu gwybodaeth ar draws cyrff statudol, asesu risg, rheoli risg a’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ag anhwylder personoliaeth. Yn gynnar yn 2011, byddwn yn cyhoeddi adroddiad cyffredinol ar ganfyddiadau’r adolygiadau a gynhaliwyd hyd yma. Adroddiad ar adolygiad yn ymwneud â Ms A a darpariaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl, yn dilyn Dynladdiad a gyflawnwyd ym mis Hydref 2005 Action Plan following the Review of Mr D and the Provision of Mental Health Services, following the Homicide of Father Paul Committed in March 2007 and the Ambulance Response and Care Provided to the Victim's Family and Community (Saesneg yn unig) Ymchwiliadau i Farwolaethau mewn CarchardaiO fis Ebrill 2006, AGIC sydd wedi bod yn gyfrifol am elfen adolygiad clinigol pob marwolaeth mewn carchardai yng Nghymru. Cyflawnir y swyddogaeth hon ar ran Ombwdsmon y Gwasanaeth Carchardai, ac mae Memorandwm Dealltwriaeth wrthi’n cael ei lunio. Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Ymchwiliadau i Farwolaethau yn y DdalfaMae Memorandwm Dealltwriaeth wrthi’n cael ei ddatblygu gyda Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (yr IPCC). Bydd hwn yn disgrifio’r dull gwaith a’r broses ar gyfer cynnal adolygiadau ar y cyd o farwolaethau sy’n digwydd yn nalfa’r heddlu. Dros y 12-18 mis diwethaf, gwelwyd nifer sylweddol o farwolaethau yn y ddalfa pan yr oedd yr unigolyn wedi bod yn camddefnyddio sylweddau a/neu alcohol neu’n dioddef o broblem iechyd meddwl. Yn ogystal, digwyddodd nifer o’r marwolaethau wrth i’r unigolyn gael ei drosglwyddo o ofal yr heddlu i’r GIG, neu ar safle’r GIG yn fuan ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu. Mae AGIC yn rhannu safbwynt Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu bod nifer o wersi i’w dysgu a fyddai, gobeithio, yn lleihau nifer y marwolaethau yn y dyfodol. Mae hefyd o’r farn mai’r ffordd orau o gyflawni’r gwaith hwn yw cynnal adolygiadau ar y cyd er mwyn gallu ystyried yn well unrhyw faterion yn ymwneud â’r cyswllt rhwng y gwahanol sefydliadau. Adroddiadau Digwyddiadau Angheuol yr Ombwdsman Carchardai a Phrofiannaeth (Saesneg yn unig)
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 08/09/2010 |
|