![]() |
![]() |
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Yn Cyhoeddi Canfyddiadau Adolygiad O Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Yng NghymruDydd Mawrth, 27 Mawrth 2012Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cyhoeddi ei hadroddiad heddiw ar ôl cynnal adolygiad o ddarpariaeth Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau ledled Cymru.
Nod yr adolygiad oedd ateb dau gwestiwn sylfaenol: A yw teuluoedd pobl sy’n camddefnyddio sylweddau yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen?’ A yw gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn diwallu anghenion pawb sy’n camddefnyddio sylweddau?’ ‘ Yn ystod yr adolygiad, clywodd AGIC gan ddefnyddwyr gwasanaeth am eu profiadau eu hunain, a gweithiodd gyda darparwyr gwasanaethau, cyrff statudol a chomisiynwyr i archwilio sut y mae asiantaethau a gwasanaethau yn cydweithio i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd. Canfuwyd bod rhai gwasanaethau rhagorol, arloesol a llwyddiannus ym maes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, yn ogystal âgweithlu brwdfrydig a diflino sy’n sbarduno gwelliannau. Fodd bynnag, er bod y darlun yn gwella yn gyffredinol, mae safon y gwasanaethau ledled Cymru yn parhau i fod yn amrywiol ac mae angen gwneud mwy i sicrhau eu bod yn gyson ac yn gynaliadwy. Yn fwyaf hanfodol o bosibl, canfuwyd bod teimlad o warth yn parhau i fod yn gysylltiedig âchamddefnyddio sylweddau, oherwydd y cysylltiad âthrosedd yn ogystal â’r syniadau ystrydebol a geir yn aml ynglŷ âphwy sy’n camddefnyddio sylweddau. Mae angen cydweithio i fynd i’r afael ag agweddau’r gymdeithas gyfan, er mwyn lleihau’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag derbyn triniaeth, ac er mwyn sbarduno gwelliannau yn y driniaeth honno. Meddai Prif Weithredwr AGIC, Dr Peter Higson, heddiw: “Wrth gynnal yr adolygiad hwn rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael defnyddwyr gwasanaeth i rannu eu profiadau âni yn agored ac yn onest. Yn ddieithriad, maent wedi dangos urddas arbennig ac rydym wedi dod i ddeall nad oes y fath beth âchamddefnyddiwr sylweddau nodweddiadol –gall unrhyw un o unrhyw oedran neu gefndir ei gael ei hun yn y sefyllfa hon. Gobeithio y bydd pawb a siaradodd âni yn adnabod eu cyfraniad at yr adroddiad hwn ac yn gweld bod eu profiadau wedi ein cynorthwyo i ffurfio ein canfyddiadau a’n hargymhellion. Ein gobaith yw y bydd y wybodaeth yn yr adroddiad hwn o ddiddordeb i’r rhai hynny sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ond hefyd i unigolion a’u teuluoedd sydd, neu a allai fod, ag angen gwasanaethau yn y dyfodol. Fel y pwysleisiwyd wrthym yn eglur ac yn angerddol trwy gydol yr adolygiad, ‘nid oes neb yn bwriadu mynd yn gaeth.’ Adolygiad Camddefnyddio Sylweddau Wasanaethau Yng Nghymru Ffynhonnell: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (safle we yn Saesneg) |
|