Sgipio mordwyaeth
 
 

Adroddiad ar adolygiad yn ymwneud â Mr E a'r ddarpariaeth o Wasanaethau Iechyd Meddwl, yn dilyn Lladdiad a gyflawnwyd ym mis Awst 2007



Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cyhoeddi ei hadroddiad heddiw yn dilyn adolygiad o laddiad a gyflawnwyd gan ddefnyddiwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl yng Nghasnewydd.

Mae’r adroddiad yn ymchwilio i’r gofal iechyd a’r cymorth a roddwyd i Kevin Price (y cyfeirir ato fel Mr E yn yr adroddiad) ac effaith hyn ar farwolaeth James Fortey (y cyfeirir ato fel Mr V yn yr adroddiad). 
 
Mae’r adolygiad wedi tynnu sylw at bryderon ynglŷn â pha mor ddigonol oedd y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Kevin Price.  Dyma ganfyddiadau’r adroddiad:
  • Ni ellid bod wedi rhagweld lladdiad Mr V, ond gellid bod wedi osgoi’r tebygolrwydd o unrhyw laddiad pe byddai’r ymgysylltiad â Mr E ar gyfer gofal a thriniaeth wedi ei gynnal mewn modd mwy pendant. 
  • Ni ddefnyddiwyd dull digon pendant o ddarparu gofal a thriniaeth a monitro ar gyfer Mr E.
  • Ni adolygwyd y trefniadau asesu risg mor aml ag y byddai AGIC wedi ei ddisgwyl ac nid oedd dogfennau yn cael eu cwblhau bob amser.
  • Roedd ymgysylltiad â theulu Mr E yn wael, ac ni roddwyd digon o gefnogaeth iddynt yn ystod cyfnod a fyddai wedi bod yn hynod anodd iddynt. 
  • Dylid bod wedi gwneud trefniadau mwy cadarn i sicrhau bod Mr E yn cymryd ei feddyginiaeth.
  • Nid oedd y systemau arwain a rheoli yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn effeithiol.
  • Nid oedd y Dull Rhaglen Ofal wedi’i weithredu’n gywir ac ni roddwyd digon o sylw i asesu, nodi a rheoli risg.
Mae adroddiad yr adolygiad yn nodi 6 argymhelliad.
 
Dyma ddywedodd Prif Weithredwr AGIC, Dr Peter Higson, heddiw:
 
“Mae gwersi pwysig i’w dysgu o ganlyniad i’r achos trasig hwn.  Rwyf yn annog pawb sy’n darparu gwasanaeth iechyd meddwl i asesu eu hunain yn erbyn y canfyddiadau a’r argymhellion a wnaed gennym yn ein hadroddiad a’u defnyddio er mwyn sicrhau eu bod mewn gwell sefyllfa i atal digwyddiadau o’r fath rhag digwydd eto yn y dyfodol."
 

Ffynhonnell: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (safle we yn Saesneg)