![]() |
![]() |
Diogelu ac Amddiffyn Plant yng NghymruDydd Mawrth, 20 Hydref 2009Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiadau heddiw ynglŷn â diogelu ac amddiffyn plant yng Nghymru.
Mae hyn yn dilyn Datganiad gan y Gweinidog ynglŷn â ‘Diogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng Nghymru’ a wnaed ym mis Tachwedd 2008 mewn ymateb i farwolaeth y baban Peter Connelly yn Haringey. Dyma’r tri adroddiad a gyhoeddir heddiw:
Maent yn cyfuno canfyddiadau pob maes gwaith a gynhaliwyd gan y ddwy arolygiaeth ac yn darparu trosolwg o’r trefniadau sydd wedi eu sefydlu i helpu i ddiogelu ac amddiffyn plant yng Nghymru. Canfu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), o ran gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, fod llawer o sylw wedi ei roi i gryfhau'r ymateb i bryderon cychwynnol ynglŷn â niwed a chamdriniaeth i blant, ers yr adolygiad cenedlaethol cyntaf a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn 2004. Fodd bynnag, amlygodd yr adolygiad o Awdurdodau Lleol a Byrddau Lleol Diogelu Plant (LSCB) amrywiadau ac anghysondebau mewn arfer ac anghydbwysedd yn y modd y mae sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran diogelu a hybu lles plant, bod gormod o ddibyniaeth ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac y disgwylir gormod oddi wrthynt. Amlygodd yr adolygiad yr heriau o ran cynnal gwyliadwriaeth gyson er mwyn sicrhau bod pob rhan o’r system yn gweithio’n dda gyda’i gilydd drwy’r amser. Canfuwyd bod y Byrddau Lleol Diogelu Plant ar gamau gwahanol o ddatblygiad ar draws Cymru, ac mae llawer ohonynt nad ydynt yn cyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol ar hyn o bryd fel y nodir yn y canllawiau ac mae rhai asiantaethau, drwy beidio â chymryd rhan, yn methu yn eu dyletswydd i gydweithredu. Mae cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ynglŷn ag amddiffyn plant ar gael ymhlith gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ar draws Cymru, ond nid yw hyn yn cael ei rannu mewn modd sy’n sicrhau’r effaith a’r budd gorau, ond gellid gwneud hynny drwy well cydlyniant a threfn. Mae AGGCC wedi datgan yn eu hadroddiad bod angen cydgysylltu polisi ac arfer yn fwy cyson ar draws yr holl sefydliadau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol er mwyn sicrhau bod modd gweithio ar y cyd yn fwy effeithiol i ddiogelu ac amddiffyn plant. Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr adolygiadau achos difrifol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd 17 achos yn destun adolygiad ym mis Ebrill 2007 a 34 ym mis Ebrill 2008, sef cynnydd o 100%. Ceir lefel uchel o gytundeb ar draws Cymru ynglŷn â’r ffaith nad yw’r trefniadau cyfredol ar gyfer adolygu achosion difrifol yn gweithio’n effeithiol. Mae adroddiad AGGCC yn amlygu’r angen am fframwaith LSCB mwy cydlynol a chynhwysfawr ar gyfer adolygu, dysgu a gwella arfer diogelu nad yw’n dibynnu ar adolygiadau achos difrifol yn unig i sicrhau yr ysgogir newidiadau mewn polisi ac arfer. Mae’n ofynnol cael continwwm dysgu ar sail egwyddorion eglur o fod yn agored, cefnogaeth a her broffesiynol, atebolrwydd, ymrwymiad ar y cyd i wella arfer a chymryd camau amserol er mwyn cyflawni’r newidiadau angenrheidiol. Dywedodd Jonathan Corbett, Prif Arolygydd Gweithredol AGGCC, heddiw:
Nod penodol adolygiad AGIC a gynhaliwyd ar yr un pryd ag adolygiadau AGGCC oedd ateb 2 gwestiwn allweddol:
Mae adroddiad AGIC yn nodi peth cynnydd a gwelliannau o ran y trefniadau amddiffyn a diogelu plant ar draws sefydliadau gofal iechyd ers yr adolygiad llawn diwethaf a gynhaliwyd, gan AGIC, yn 2007. Mae’n amlygu y canfuwyd bod y staff yn gyffredinol effro i faterion amddiffyn plant ac yn ymwybodol o’r gweithdrefnau adrodd a dwysáu. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi ei bod yn ymddangos bod rhai o’r staff sy’n gweithio yn y gwasanaethau i oedolion yn parhau i wrthod derbyn bod ganddynt swyddogaeth o ran amddiffyn plant. Yn yr adroddiad, mynegir pryder hefyd nad yw’r holl staff sy’n gweithio i’r GIG wedi derbyn archwiliadau gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT) a bod anghysondebau yn y modd y cynhelir archwiliadau SCT ar draws y GIG yng Nghymru. Mae amrywiadau o ran cysondeb y modd y mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhannu gwybodaeth o fewn eu sefydliadau eu hunain, yn ogystal â gydag asiantaethau a sectorau eraill, wedi eu nodi hefyd. Mewn rhai ardaloedd, mynegodd y staff bryderon ynglŷn â thorri cyfrinachedd y cleifion a’r effaith y gallai hyn ei gael ar eu perthynas â’r unigolyn a’u hanghenion therapiwtig yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn cynnwys chwech ar hugain o argymhellion gyda’r bwriad o wella trefniadau amddiffyn a diogelu plant ar draws sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru. Dywedodd Peter Higson, Prif Weithredwr AGIC heddiw:
Ffynhonnell: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (safle we yn Saesneg) |
|