Sgipio mordwyaeth
 
 

Adolygiad Cymru Gyfan o Wasanaethau Rhagnodi Camdefnyddio Sylweddau



Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw yn dilyn adolygiad Cymru gyfan o wasanaethau rhagnodi camddefnyddio sylweddau a gynhaliwyd yn 2008.

Comisiynwyd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gan Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol i ddatblygu a chynnal rhaglen o adolygiadau thematig ar wasanaethau trin camddefnyddio sylweddau.  Diben hyn yw asesu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r agenda genedlaethol drwy archwilio digonolrwydd ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru, nodi arfer da a gwneud argymhellion ar gyfer gwella yn y dyfodol.
 
Mae’r adolygiad cyntaf hwn wedi canolbwyntio ar gomisiynu a darparu cyffuriau cyfnewid megis methadon, a ddefnyddir i helpu i reoli a lleihau’r defnydd o gyffuriau opiad anghyfreithlon megis heroin.  Mae’r adolygiad hefyd wedi cyflwyno trosolwg o wasanaethau camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, a gwybodaeth sylfaenol am y ddarpariaeth a ddefnyddir i gyfrannu at adolygiadau yn y dyfodol.
 
Er ein bod yn cydnabod y cyflawnwyd datblygiadau sylweddol o ran y driniaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael a nifer y bobl sy’n cael mynediad at wasanaethau, canfuom fod y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol yn parhau i amrywio.  Er bod amseroedd aros am driniaeth yn lleihau yn gyffredinol ledled Cymru, canfuwyd bod amseroedd aros yn rhwystr sylweddol rhag cael mynediad at wasanaethau mewn rhai ardaloedd.
 
Yn gyffredinol, mae’r gwasanaethau eu hunain o safon uchel, er bod hyn yn amrywio hefyd.  Fodd bynnag, canfuwyd bod rhai safleoedd gwasanaethau yn annigonol.  Canfuwyd hefyd bod mynediad at wasanaethau eraill, megis cymorth iechyd meddwl ar gyfer camddefnyddwyr sylweddau, yn annigonol mewn llawer o ardaloedd.
 
Canfuom hefyd amrywiadau o ran pa mor dda yr oedd gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u comisiynu, gyda rhai ardaloedd ymhell ar y blaen o’u cymharu ag eraill o ran datblygu systemau triniaeth i fodloni anghenion lleol.  Mewn rhai ardaloedd canfuom nad oedd systemau triniaeth wedi eu cynllunio’n effeithiol, nid oedd gweithgarwch yn cael ei fonitro a phrin oedd yr oruchwyliaeth strategol. 
 
Mae’r adroddiad yn cynnwys tri deg pedwar argymhelliad sydd â’r nod o wella ansawdd y driniaeth a ddarperir yn ogystal â’r systemau sydd wedi’u sefydlu i gynllunio a chomisiynu systemau triniaeth.  Mae’r rhain yn pwysleisio’r angen i:
  • Wella rheolaeth strategol o ran cyflawni’r agenda camddefnyddio sylweddau yn lleol. 
  • Gwella prosesau comisiynu a chynllunio er mwyn codi ansawdd a sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn lleol. 
  • Gwella amseroedd aros a mynediad at wasanaethau, a datblygu system driniaeth sydd â llwybrau gofal penodedig yn lleol. 
  • Sicrhau bod nifer o fentrau polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu hymsefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod gwasanaethau ar gael i’r rhai hynny sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl sy’n cyd-fodoli, a defnyddio dull asesu integredig. 
  • Gwella’r trefniadau ar gyfer diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed a lledaenu’n lleol yr hyn a ddysgir o adolygiadau ynghylch marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Croesawodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, y cyfraniad y bydd yr adroddiad yn ei wneud i wella gwasanaethau ledled Cymru. 
 
Meddai Dr Gibbons, “Ers 2003, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynyddu’n sylweddol faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.  Bu twf enfawr mewn gwasanaethau ac mae ein partneriaid ledled Cymru wedi gweithio’n galed i ymateb er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau.    
 
“Yr adroddiad hwn yw’r dadansoddiad llawn cyntaf o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru.  Mae’n darparu llwyfan i ni er mwyn ychwanegu at y cynnydd sylweddol a wnaed yn ystod y blynyddoedd diweddar. 
 
“Mae ein strategaeth deng mlynedd newydd i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn amlinellu’r meysydd yr ydym yn dymuno rhoi sylw penodol iddynt, a bydd yr adroddiad hwn yn ein helpu ni a’n partneriaid i ganolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau’n effeithiol er mwyn sicrhau hyd yn oed mwy o welliannau.”
 

Ffynhonnell: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (safle we yn Saesneg)